Main content

Pôs-rigwm i Geraint Lloyd

Gan fod Cymru’n mwynhau
dy bosau di gymaint,
dyma osod ‘run her,
‘run dasg i ti Geraint ...

“Ar fforchiad y ffordd
caf sefyll yn dalog,
fy wyneb yn goch
a ‘nhalcen i’n sgwarog.â€

“Rwy’n loetran bob awr
yng nghwmni myfyrwyr,
gan rannu pob ffaith,
pob si sy’n yr awyr.â€

“Er ‘mod i ar fryn,
nid ydy o’n fynydd;
ond gwir fod dwy ran
ohona’i ‘Meirionnydd.â€

Mig geiriau sy’n cau
yr ateb o’r golwg;
ond Geraint, tyrd ‘d’laen,
i ti bydd o’n amlwg!

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

55 eiliad

Daw'r clip hwn o