Cawod Eira gan Gwennan Evans
Disgynnodd cawod eira dros ein byd
a ninnau’n stond, yn llawn rhyfeddod syn.
Mae’r cyfan bron â dadmer nawr i gyd.
Y cyngor oedd i aros adre’n glyd
a gafael ymhob eiliad fach yn dynn.
Disgynnodd cawod eira dros ein byd.
Â’m camera, ceisiais gadw cof o’r hud
mewn lluniau sydd fel cardiau post o wyn.
Mae’r cyfan bron â dadmer nawr i gyd.
Caf wên neu sgwrs yn amlach ar y stryd
a phawb yn oedi’n hwy y dyddie hyn.
Disgynnodd cawod eira dros ein byd.
Mae’r rhew yn toddi’n gynt a chynt o hyd
a’r dŵr yn llifo nawr i’r lle y mynn.
Mae’r cyfan bron â dadmer nawr i gyd.
Mae’n amser cadw’r pram a’r mat a’r crud.
Oes peth i’w weld ar ôl ar gopa’r bryn?
Disgynnodd cawod eira dros ein byd.
Mae’r cyfan bron â dadmer nawr i gyd.