MS, fy nheulu a fi: Pennod 4
Mae Radha Nair-Roberts yn dod yn wreiddiol o Singapore. Fe nath hi briodi Tegid Roberts o Wrecsam a dysgu siarad Cymraeg yn rhugl. Mae ganddyn nhw ddau o blant.
Wel mae salwch fel MS yn effeithio ar y teulu i gyd, wrth gwrs. Mae Tegid wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y byd busnes. Mae wedi gweithio i Sony, wedi cynllunio offer mawr a drud i’r byd recordio sain ar gyfer teledu a ffilm. Fe weithiodd ar gynllun Ewropeaidd i greu teledu rhyngrwyd - a hynny ymhell cyn iddo ddod ar y farchnad.
Mae Tegid wedi gweithio gyda chwmniau mewn llefydd fel Silicon Valley yn America, Llundain, Iwerddon a’r Almaen. A Tegid oedd yn gyfrifol am y ffaith bod y Raspberry Pi yn cael ei gynhyrchu yn ffatri Sony ym Mhencoed. Fe allwn i fynd ymlaen ac ymlaen wrth sôn am lwyddiannau Tegid.
Ond, pan ddeffrodd ei wraig Radha un bore yn methu symud un ochor o’i chorff, roedd yn rhaid i Tegid newid ei ffordd o fyw yn llwyr.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
MS, fy nheulu a fi—Bore Cothi
Radha Nair-Roberts a'i gŵr Tegid yn son am eu profiad o fyw gyda MS