Main content
MS, fy nheulu a fi: Pennod 3
Mae Radha Nair-Roberts yn dod yn wreiddiol o Singapore. Fe nath hi briodi Tegid Roberts o Wrecsam a dysgu siarad Cymraeg yn rhugl. Mae ganddyn nhw ddau o blant.
Roedd gan Radha swydd bwysig yn canolbwyntio salwch niwrolegol. Roedd ei hymchwil yn profi bod cadw’n heini yn bwysig iawn i bobol â chyflyrau tebyg i MS.
Wrth iddi hi wneud ei hymchwil, doedd hi rioed wedi credu y byddai hi’n newid yn llwyr oherwydd salwch niwrolegol. Ond ar ôl i’r MS waethygu, fe benderfynodd Radha ymgyrchu a chreu menter o’r enw Exercise for All er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobol anabl allu cadw’n heini.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
MS, fy nheulu a fi—Bore Cothi
Radha Nair-Roberts a'i gŵr Tegid yn son am eu profiad o fyw gyda MS