Main content
Cywydd gan Ifan Prys, bardd mis Chwefror 2018
Os am steil, ceisiwn ffeilio
llyfr wrth lyfr nôl ei liw o;
nid lliw y siacedi llwch
lliwgar neu’r cyfar cofiwch
ond lliw y penodau llwyd;
y lliw hwn na ddarllenwyd:
hufen y tudalennau
a brown eu hymylon brau.
Lliw ar feingefn, anrhefn yw
ond y llwyd, nid hyll ydyw.
Da y gwn, er steil, nad gwâr
i’r llygaid yw clawr lliwgar,
yn hytrach, gwell steil niwtral
o’u rhoi i wynebu’r wal.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Chwefror 2018 - Ifan Prys—Gwybodaeth
Ifan Prys yw Bardd Preswyl Radio Cymru ar gyfer Chwefror 2018.