Main content

Colli’r trydan

Colli’r trydan

Yng nghanol nos y flwyddyn, pan oedd y dydd
yn darfod erbyn pedwar, a dim byd
i’w wneud ond mynd adref i swatio’n glyd,
teimlem, trwy sgriniau’n ffôns, ein bod ni’n rhydd
i deithio i unrhyw le:
yno’n ein cyrff ond ein meddwl ar wib drwy’r we,
heb sbio ar ein gilydd a heb na bw na be
nes torrodd y trydan yn sydyn; nes marw’r batri,
a ninnau’n deall, wedyn, mor dywyll oedd hi.

Fel pan ddaw’n eira, mae rheolau gwahanol
ar adeg fel hyn: ac wrth i ni chwythu llwch
blynyddoedd o’r canhwyllau, trwy drwch
cysgodion rhyfedd y tŷ, o’n rhigol,
gwelsom ein gilydd,
a chwerthin, a’n lleisiau’n y düwch yn swnio’n newydd.
Bydd raid troi’n ôl i’r haf ar hyd ryw drywydd
a gwn na fyddwn ni’n dod o hyd i’r lôn
wrth olau sêr na channwyll, ond wrth olau ffôn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau

Daw'r clip hwn o