Main content
Calan Gaeaf 2017
A glywaist di y bwci bo?
Mae sŵn fel crafu ar y to.
Tu ôl i’r drws mae taro - cnoc! -
Cyn bod tawelwch, a sŵn tic...toc…
A welaist di y bwci bo?
Dim ond un cip trwy dwll y clo?
Ar ffurf rhyw gawr neu drwyn hen wrach
Aeth cysgod heibio’r ffenest fach.
A deimlaist di y bwci bo
Fel awel rewllyd heibio’r tro?
Neu law yn estyn am dy ffêr
O dan y duvet ’n oer i’w mêr?
A wyt yn ofni’r bwci bo?
Mae rhai yn dweud, wrth fynd o’u co,
‘Synhwyrau sy’na ‘n chwarae tric’.
Ond pwy sy’n meiddio gwneud un smic?
Osian Rhys Jones
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Hydref 2017 - Osian Rhys Jones—Gwybodaeth
Osian Rhys Jones yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer mis Hydref 2017.