Main content

Dyddiau Da

Dyddiau Da

Fe gydiodd ias yn Stadiwm Dinas Caerdydd
A lleisiau’r teras dros barhad yr heniaith
Yn codi mor groch nes llwyddodd y miloedd
I anghofio, bron, am boen y blynyddoedd -
Cyn i'r yrfa fer gael cip o'r drofa faith;
Nid gwybod, ond y gobaith ar y dydd
Oedd pen draw'r daith.

Ond ar ôl diawlio Roy Keane, y reff, y ddau
A loriodd Joe Allen a phob chwiban ola'
Fe sgubwyd pob siom o derasau Lecwydd;
Mae'r hen bennau’n meithrin y coesau newydd.
Mae'r Cymry yn deall - er na fydd yr ha'
Yn rhy brysur heb Rwsia - mai parhau
Wna'r dyddiau da.

Osian Rhys Jones

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

54 eiliad

Daw'r clip hwn o