Tachwedd gan Osian Rhys Jones
Os yw Tachwedd ar dy orwel yn ddu a thithau'n gwybod mai pylu pob awr na'r golau,
Os yw dy ben yn dy blu rhag gwynebu'r drefn ac os na ydi'r wawr yn ddigon agos i losgi’r cwmwl beichus gwelw,
Os gwinga dur y trac o dan sgrech y tren a theithir meddwl fel siwrne yn dod i stop,
Os oes crac yn hyn o gread cofia bod na glust yn gwrando o’r tywyllwch,
Mae lampau’r tai yn dy wahodd am baned i fod yn dyst nad oes dinas oer heb fynwes mis Mai i’th gynnal di,
Os yw’r mis du ar droed, daw’r Gwanwyn eto yn ei dro fel erioed.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Hydref 2017 - Osian Rhys Jones—Gwybodaeth
Osian Rhys Jones yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer mis Hydref 2017.
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Deinasoriaid!
Hyd: 09:41
-
Canolfan Genedlaethol Y Delyn Deires
Hyd: 07:16
-
Lle mae'r rhewlifoedd yn mynd?
Hyd: 07:50
-
Taith Minty i ddysgu Cymraeg
Hyd: 08:44