Main content

Y Flwyddyn Fawr

Osian Rhys Jones yw bardd preswyl mis Hydref. Dyma gerdd yn arbennig ar gyfer rhaglen Bore Cothi.

Y Flwyddyn Fawr

Dwi’n fy elfen eleni - ond ‘di Môn
ddim ‘di mynd i ‘mhen-i,
Er gwybod ers cyn codi
Mai hon yw’r flwyddyn i mi.

Mae pob ‘Henffych’ cyn uched yn y byd
Sydd â’i ben i waered,
I brifardd, mae’r wlad brafied
O’i weld o gwmwl Bod-ed.

Bodedern, llond byd ydyw, - mae’n y gwaed,
Mae’n gadair unigryw,
Yn hen fall ac yn ail-fyw,
Yn orwelion amryliw.

Hel o’r gorwel mewn geiriau o foliant -
yn filoedd o gardiau,
Llond gwlad o gyfarchiadau’n
Llenwi ‘nhŷ, a’m llawenhau.

Yn y tÅ· felly dyma fi - adref
Yn mwydro Shân Cothi.
Nid aeth i ‘mhen eleni -
Eto mae yn grêt i mi.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

59 eiliad