Main content

Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru

’Trac sain ni’n hunain yw hwn, a hwnnw’n
drac sain a drysorwn:
sain heddiw, sain a naddwn
o’r un graig â Chymru’n grwn.

Mae’n gân werin y ddinas
a nodau’r glonc ar dir glas:
ei drwms yw carreg y drws
a’i bît yw’r byd a’r betws.

Hon yw’r gân sy’n rhoi ar goedd
newyddion y mynyddoedd,
ac mae’n fôr o gerddoriaeth
sy’n llawn sgyrsiau ffrindiau ffraeth.

Mae’n dŷ cwrdd a man dweud cerddi; mae’n gôl,
mae’n galon, mae’n gwmni;
mae’n llond sgubor o stori
yn ein clyw unigryw ni.

Ceri Wyn Jones

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o