I Lan-llyn
(Cerdd a ysgrifennwyd yn ystod ymweliad cyntaf Mabon â Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn, ddiwedd mis Mai. Ymfudodd rhai o gyndeidiau Mabon o blwy Llangywer ger y Bala, i Batagonia.)
Wrth iti ’madael
a bachyn bychan arall yn llacio
o afael y graig,
mae dy goflaid ddi-iaith
yn dweud y cyfan.
Tro dy gefn
a dilyna’r llif llawen i gefn y moto coch
i raffu straeon a chaneuon,
chwerthin a rhegi
yn Gymraeg.
Dy fyd fydd dy fag, dy fêts,
y wên gyntaf honno
a gofi tra byddi
neu’r winc ddi-wifr rhwng dau.
Glania’n gadarn
yng ngôl bro Aran,
wrth gyfarch gwell i’r Bala dirion, deg,
lle clywi gân dy wreiddiau
yn cyfarch o’r tonnau
yn Gymraeg.
Yno, bydd her mabolgampau
ac mi gei daflu dy bwysau
nes lledu dy ysgwyddau
yn Gymraeg.
Mi wynebi wal
a honno’n un ddi-ddal
ond cydia’n dynn -
mi ddaw’r copa
yn Gymraeg.
A phan fydd llynnoedd du
yn dy fygwth di,
rhwyfa’n dawel
a dal d’afael
yn Gymraeg.
Heddiw, dilyna’u llwybrau
a phlanna ôl dy draed dithau
yn gadarn, yn heriol
yn Gymraeg.
Esyllt Nest Roberts
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mehefin 2017 - Esyllt Nest Roberts—Gwybodaeth
Esyllt Nest Roberts yw bardd Radio Cymru ar gyfer Mis Mehefin 2017.
Mwy o glipiau Bore Iau
-
Ymweliad a faes yr Urdd, Pen-coed
Hyd: 10:20
Mwy o glipiau O'r Maes
-
Ymweliad a faes yr Urdd, Pen-coed
Hyd: 10:20
-
Grwpiau Llefaru o dan 19 oed—Pnawn Gwener
Hyd: 02:47
-
Partïon Bechgyn Blwyddyn 7, 8 a 9—Pnawn Iau
Hyd: 02:27