Main content

Ras y Moelwyn 2017

Ar Sadwrn hir felyn tesog yn Stiniog,
fe ddaethoch i grasu’r Rhosydd,
i deimlo cadernid y graig,
i esgyn y llechweddau du,
i ymestyn tua’r awyr denau,
i naddu eich esgidiau ar lechi
a thorri distawrwydd hen y moelydd
ag ebill eich anadl.

Croesoch y llinell derfyn
a’r mynydd yn ddim ond
dafnau chwys ar dalcen
a brychni baw ar goesau.

Chi sy’n cyrraedd copaon.
Chi sy’n gweld y pell yn agos
a phethau bychain yn fawr.
A’ch camau chi
sy’n troi breuddwyd
yn weledigaeth ar gwrs eich byd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

45 eiliad

Dan sylw yn...