Bethlehem
Bethlehem
Maen nhw’n llenwi pob un o silffoedd y tŷ erbyn hyn,
cardiau Nadolig, a phob llun arnyn nhw yn gyfarwydd:
yr angylion lu, y tri brenin ar gopa’r bryn
yn syllu ar y seren o bellter ac yn dilyn ei harwydd.
Congl-faen ei ffydd i’r crediniwr yw’r cardiau hyn
tra bo’r amheuwr yn gobeithio mai gwir yw’r stori,
ond i’r anffyddiwr rhonc, dim ond celwydd gwyn
yw Nadolig yr eira, y Seren, a’r Mab i’w drysori.
Amgenach yw Bethlem y gwn i Fethlem y cardiau,
ac mae gwaed Palesteiniaid yn staenio man geni Crist,
a milwyr yr Israel hwythau yn llenwi wardiau
ysbytai â phlant maluriedig, toredig, trist.
A ddylid ar y cardiau hynny roi llun ceir ar dân
a lladd pob llawenydd a gobaith a mygu pob cân?
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Rhagfyr 2016 - Alan Llwyd—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer Rhagyr 2016 yw Alan Llwyd.