Main content

Cerdd Alan Llwyd i Galwad Cynnar

Cerdd Alan Llwyd

Yng Nghymru y mae rhyfeddodau,
adar a choed a blodau,
a mynyddoedd a dyffrynnoedd, a phrennau
yn gwegian gan ddail bob gwanwyn a haf;
rhyfeddod fel drudwy Gerlan,
drudwy yn gwrlid uwch Gerlan,
yn erlid ei gilydd uwch Gerlan;
cymylau’n malu’n fil o ddarnau mân, mân;
drudwy, cawodydd o ddrudwy,
lond awyr, a Gerlan yn dywyll.

Rhyfeddod fel rhyfeddod marwolaeth y dail ym Mro Elwy,
a’r farwolaeth yn ailenedigaeth y dail
o fewn trefn natur ei hun
eto ym mhair y tymorau:
y drefn a fu’n bod erioed
cyn i hyrwyddwyr cynnydd
ymyrryd â’r tymhorau.

Yng Nghymru y mae rhyfeddodau,
rhyfeddod fel y gerddi ym Modnant,
bwa aur y banadl uwchben
y lôn islaw
fel ystafell mewn castell coeth
â’i nenfydau’n siandeliriau laweroedd;
eu melynder ar daen, a’r haenau
clòs o dresi aur fel clystyrau o sêr,
a’r lôn islaw
fel Lôn Goed felen i gyd.

Yng Nghymru hefyd mae rhyfeddod y môr,
y môr yn sisial yn isel, yn hisian fel sarff,
wrth olchi’r graean i’r lan;
ond ar draethau Cymru hefyd
mae ôl llanastr a gwastraff,
llanastr a gwastraff blith-draphlith ar fymryn o draeth,
esgyrn hen bysgod, cragen cranc; poteli a bagiau plastig
yn tagu’r adar, ac yn tynnu’r gwylanod i’r tir
o’u cynefin i leddfu eu cnofa
o lwgfa, oblegid i ni
lygru a gwenwyno’u cynefin, a dwyn eu cynhaliaeth,
a’u gyrru i fwydo ar faw
ein tomennydd gwastraff.

Ac ar raglen Gerallt Pennant
cewch glywed am y bwa aur yng Ngerddi Bodnant,
ac am ddrudwy Gerlan,
ac am yr hydref amryliw ym Mro Elwy
tra bo i natur a byd
ystyr a gwerth rhag y distryw i gyd
cyn inni halogi’r wylan gilwgus
â’n holew, a dwyn ei chynhaliaeth,
a dileu â’n mwg a’n cemegau
y rhywogaethau i gyd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o