Main content
Nia Mon - cerdd yn ymateb i'r pabis coch yng Nghastell Caernarfon
Nia Mon sy'n ymateb i'r gosodiad celf Poppies: Weeping Window yng Nghastell Caernarfon.
PABI CAERNARFON
(Ymweld ag Aberfan, a cholli ffrind arbennig cyn gweld y Pabi Coch.)
Rôl dagrau duon ddoe
a’r plant bychain
yn llifo drwy amser i’n taro eto,
a galwad fore
am wennol,
a’i wên
na ddaw’n ôl...
y cyfan wela i
yw muriau oer.
Crafangau’n marwoldeb
yn estyn
yn betalau
o waed.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Tachwedd 2016 - Nia Mon—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer Tachwedd 2016 yw Nia Mon.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru.
Mwy o glipiau Stiwdio gyda Nia Roberts
-
Llyfr y Flwyddyn 2022 - rhaglen 3
Hyd: 27:24
-
Llyfr y Flwyddyn 2022 - rhaglen 2
Hyd: 27:31
-
Llyfr y Flwyddyn 2022 - rhaglen 1
Hyd: 27:35