Main content
Hamdden - Arwyn Groe
Hamdden
Pa beth yw byw, a’i ofal dwys
Heb awr i’w rhoi i ddim o bwys,
Heb awr i oedi’n hir yng nghôl
Y ddaear las ar lawr y ddôl,
Heb awr i weld, wrth fynd ar droed,
Y wiwer goch ym mrigau’r coed,
Heb awr i weld yng ngolau dydd
Y ffrydiau sêr drwy’r wybren rydd,
Heb awr i droi edrychiad hir
Ar ddawns yr hwyr ym mreichiau’r tir,
Heb ennyd fer i aros gwên
Llawenydd hir ei llygaid hen?
Pa beth yw byw, a’i ofal dwys
Heb awr i’w rhoi i ddim o bwys?
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Medi 2016 - Arwyn Groe Davies—Gwybodaeth
Bardd Mis Medi 2016 yw Arwyn Groe Davies.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru.