Main content

Bwydydd arbennig

Bore Cothi sy'n herio Arwyn Groe i gyfansoddi cerdd am 'fwydydd arbennig'.

Gwrandawyr Radio Cymru:
Rhowch heibio fwyta llymru;
Dechreuwch lowcio datys sych,
Blodfresych wedi hynny.

Llond platied o bigoglys
Yn lle rhyw sothach melys,
A chadw lle, yw ‘nghyngor i
I frocoli bach blasus.

Cnau coco sy’n dda ichi
A phomegranad lyfli,
A hydref, gwanwyn, gaeaf, ha’
Cîn-wâ hyd at gyfogi.

Te gwyrdd i olchi’r cwbl
I’r stumog yn ddi-drwbl.
A pheidio yfed Cwrw LlÅ·n
Rhag coblyn o gythrwfl.
* * *
Yr oedd gan nain risetie
I drin y bwydydd gore,
A gyrrai’r plant, yn drwm o chwys
I hela llys y brynie.

Roedd taid yn ddiwyd balu
Ei ddarn o dir a’i chwynnu,
A deuai’n gyson o’r ardd hon
Ei foron i’n diwallu.
Mor ddiwyd fu’r gwrteithio
Yng nghornel yr ardd honno,
A deuai’n gyson ddechrau’r haf
Y riwbob braf i’w dastio.

A phan ddoi tymor medi
A’i fladur wedi’i hogi,
Ai taid i lawr i’r dolydd ceirch
A’r gwenyn meirch yn gwmni.

 nain yn drwm o gyffro
Ai’r plant i gyson grwydro,
A’r mwyar duon tew yn stôr
Yn borffor ar eu dwylo.

Ac antur cyson ydoedd
Hel cnau o gyll y stingoedd,
Ac felly deuai bob yn gwd
Y superfood i’r silffoedd.

Arwyn Groe
04.09.16

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau