Main content

I Burdah’r Â鶹ԼÅÄ

Mae hwn yn bennill coch,
Yn bedair lein o hyd,
A thrwy’r llinellau hyn,
Cewch olwg coch o’r byd.

Mae hwn yn bennill glas,
Sy’n union yr un hyd,
A thrwy’r llinellau hyn,
Cewch olwg glas o’r byd.

Mae hwn yn bennill gwyrdd,
Sydd eto yr un hyd,
A thrwy’r llinellau hyn,
Cewch olwg gwyrdd o’r byd.

Ac oren ydy hwn,
Ond mae o yr un hyd,
A thrwy’r llinellau hyn,
Un oren yw y byd.

A phorffor ydy hwn,
Ond ’sdim amrywio’r hyd,
A thrwy’r llinellau hyn,
Un porffor yw y byd.

Mae yna fwy i’w cael,
O liwiau yn y byd,
Ond fydd y pennill byth
Yn amrywio yn ei hyd.

Tra’r pery’r ymgyrch boeth
I’n cynrychioli ni,
Cadw’r lliwiau yn eu pot,
Yw gwaith y Â鶹ԼÅÄ

Nes bydd y lliwiau’i gyd,
Pob dewin a phob clown,
Yn llifo’i mewn i’r Bae
I ffurfio Senedd frown.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...