Main content

Pietà – Michelangelo

Cerdd ar gyfer y Pasg gafodd ei ysbrydoli gan gerflun enwog y Pietà gan Michelangelo

Pietà – Michelangelo

Tu ôl i gondom gwarchodol y persbecs
eistedda’r wyryf
â chorff ei mab yn ei chôl.
Mewn eglwys a dinas sy’n drewi o gelfyddyd
hon yw seren y sioe.
Down yn ein miloedd i wirioni ar dangnefedd y marmor;
y graig a wnaethpwyd yn gnawd
gan glyfrwch dwylo dyn.
Ymhyfrydwn ym mhlygiadau ei dillad
a chynildeb ei hing
a diwinyddiaeth awgrymog y dweud.
Gydag un llaw, gafaela’n dynn yn ei mab
tra bo’r llall yn ei offrymu i’r byd
a’i hwyneb yn lân a dihalog.
Sancta Maria.
Ceisiwn dynnu llun,
ond ni all hwnnw wneud cyfiawnder â hi
felly ymlusgwn tua’r loddest nesaf
a gadael i’r forwyn ddioddef yn weddus.
Ond nid marmor mo cnawd.
Byddai’r Fair go iawn yn hŷn
ac yn hyll fel galar
a’i dwylo’n duo
wrth iddi bawennu’r swp gwaedlyd
a fagodd ar ei bron.
Byddai’r un a suddodd i’w gliniau ar Golgotha
yn udo fel bleiddast
ac yn dwrdio’i mab am dynnu pobol i’w ben.
Byddai hi, Mam yr holl famau
yn poeri rhegfeydd at y Duw a’i treisiodd
ac a gymerodd ei mab cyn pryd.
Byddai hi, y cnawd a wnaethpwyd yn graig
yn chwalu’r persbecs
ac am waed bob un ohonom
sy’n ymdrybaeddu yn yr aberth
ac sy’n awchu’n farus am waed
ei hogyn hi.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o