Dirgelwch yr Wyau
cerdd ddiweddara Gruffydd Owen, bard y mis
Dirgelwch yr wyau
Maen nhw’n credu nawn ni’m sylwi,
rydw i’n honco medda rhai;
ond dwi’n gwybod fel efengyl
fod creme eggs ’di mynd yn llai.
Peidiwch poeni am bris petrol
na phris olew yn Dubai,
megis pi-pi dryw ’di hynny
a chreme eggs yn mynd yn llai!
Synhwyraf gyllell y llywodraeth.
Ai George Osborne sydd ar fai
am sleifio brawddeg i’r gyllideb
am greme eggs yn mynd yn llai?
Dwi ’di trio ffonio’r heddlu
MI6 a’r FBI
ond mae’r taclau’n ceisio gwadu
bod creme eggs ’di mynd yn llai.
Ond cefais dip-off cyfrinachol
(gan ryw smack-head o Drelái)
oedd yn honni fod o’n gwybod
pwy sy’n gwneud creme eggs yn llai:
Beti George a Margaret Williams
ac un o Hogia Llandygai,
nhw ’di’r cnafon diegwyddor
sydd yn gwneud creme eggs yn llai!
Maen nhw’n berchen llongau tanfor
sy’n cludo’r wyau i Mumbai
at ryw dîm o arbenigwyr,
nhw sy’n gneud creme eggs yn llai.
Felly deffrwch bobol Cymru,
mae hi’n amser herio’r trai!
Awn i frwydro’r grymoedd aflan
sydd yn gwneud creme eggs yn llai!
Gruffudd Owen
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd y Mis: Gruffudd Owen—Gwybodaeth
Cerddi gan fardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Mawrth 2016.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru.
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
-
Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan Jones
Hyd: 09:18
-
Taflu paent dros Maria!
Hyd: 01:47
-
Be well na llond bol o chwerthin?
Hyd: 01:39
-
Teyrnged i Paul Daniels
Hyd: 01:09