Bore Nadolig gan Aled Lewis Evans
Bore Nadolig
(Bore Nadolig ynghanol Wrecsam
Yn y tynerwch hwn
yn dilyn y gyrru cyfoes
mewn ceir a bysus a threnau,
yn deuluoedd yn heidio am y siopau;
yn y gwacter newydd
daw posibiliadau'r dydd newydd.
Bore Nadolig yn y Ganolfan Siopa
mor dyner
mor ddistaw
mor wag;
mor newydd
ag anadliad tyner baban.
Yfory bydd gyrru ar hyd y gwythiennau drachefn
ac arian yn llosgi
ym mhocedi'r arwerthiant mawr,
bargeinion a drefnwyd
cyn y rhuthr gwreiddiol.
Ond, fe fyddwn oll wedi cael
Heddiw,
yr hoe yng nghΓ΄l ein teuluoedd,
yr ystyried byr a oes mwy i'r stori.
Yr ysbaid.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd y Mis: Aled Lewis Evans—Gwybodaeth
Cerddi gan fardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Rhagyr 2015.
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
-
Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan Jones
Hyd: 09:18
-
Dirgelwch yr Wyau
Hyd: 01:05
-
Taflu paent dros Maria!
Hyd: 01:47
-
Be well na llond bol o chwerthin?
Hyd: 01:39