Main content

Tecwyn Ifan - Nos Oleua'r Byd

Cerdd ddiweddaraf Aled Lewis Evans, a' geiriau ar gyfer carol newydd Tecwyn Ifan.

Cerdd ddiweddaraf Aled Lewis Evans, a' geiriau ar gyfer carol newydd Tecwyn Ifan.

AR NOS OLEUA'R BYD

Crud a seren
brenin ac angel
a bugeiliaid lawr yn y gwair.
y gred yn syml a Duw yn faban
yno yng nghoflaid Mair.

CYTGAN
Gwefr a chân, awyr ar dân,
pan oedd y byd yn iau
fe deithion ni at y crud,
pan oedd y byd yn iau,
fe deithion ni at y crud
ar nos oleua'r byd, ar nos oleua'r byd.

Rhuthro, gwthio
dyna ein hanes,
rasio byw'r lôn chwim o hyd.
arhoswn ennyd a myfyrio,
am Fab oleuodd y Crud.

Crud a seren
brenin ac angel
a bugeiliaid lawr yn y gwair.
y gred yn syml a Duw yn faban
yno yng nghoflaid Mair.

CYTGAN
Gwefr a chân, awyr ar dân,
pan oedd y byd yn iau
fe deithion ni at y crud,
pan oedd y byd yn iau,
fe deithion ni at y crud
ar nos oleua'r byd.

CYTGAN
gwefr a chân, awyr ar dân,
mae'r byd eto'n iau
fe deithiwn ni at y crud,
mae'r byd eto'n iau,
fe deithiwn ni at y crud
ar nos oleua'r byd,
ar nos oleua'r byd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Cydnabyddiaeth

Role Contributor
Performer Tecwyn Ifan

Dan sylw yn...