Main content

Cerdd i Tudur Owen gan ddyn blin o Ben LlÅ·n

Bardd y Mis, Anni LlÅ·n, yn darllen cerdd gan un o wrandawyr Tudur Owen...

Clywaf lais ar y radio’n cadw twrw.
Dyn, fel rwdlyn yn ei gwrw,
yn berwi am wi-fi mewn acen Pen LlÅ·n,
be bynnag’n y byd ydi hwnnw.

Clywaf lais ar y radio’n fy ngwylltio.
Pwy ydi’r boi ’ma sy’n mwydro?
Yn berwi am bluetooth mewn acen Pen LlÅ·n,
’sa well gen i wrando ar ei fêt o.

Clywaf lais ar y radio sy’n corddi
rhyw gasineb gwyllt yn fy mol i.
Mae o’n berwi am gigabytes mewn acen Pen Llŷn.
Mae’ nwylo yn ysu am ei grogi.

Fedraim diodda’r boi yn bregliach,
Yn meddwl bod o’n ddoniol, y bwbach.
Yn pardduo acen pobol Pen LlÅ·n,
Gas gen i wrando ar y sothach.

Ond wrth fystachu i’w ddiffodd dwi’n rhewi,
ac yn sylweddoli’n reit handi,
gan ddeud wrth fy hun yn fy acen Pen LlÅ·n,
fod hwn yn Pen LlÅ·n wannabe.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

9 o funudau

Daw'r clip hwn o