Main content

Edrych Nôl ar Edrych Mlaen – Arwel ‘Pod’ Roberts

Cerdd gan fardd preswyl Radio Cymru ar gyfer mis Awst, Arwel ‘Pod’ Roberts.

Chwarter canrif yn ôl, a mwy, dweud y gwir,
Pan oedd hynny yn swnio yn gyfnod go hir,
Dwi’n cofio i mi addo, pe bawn i’n cael plant,
I beidio’u gorfodi i ganu cerdd dant,
Ac na fyddwn i’n datgan, yn wahanol i Mam,
Mai rwtsh oedd stwff Bowie, y Stranglers neu’r Jam.
Roeddwn i’n mynd i wrando a rhannu eu chwaeth.
Hen dro fod stwff heddiw beth gythraul yn waeth.

Chwarter canrif yn ôl, roedd ’na silff yn y tŷ
Oedd yn dal y recordiau, ac ambell CD,
A rhes o gasetiau, rhai rhad a rhai drud.
Fy nghasgliad cerddoriaeth, trysorau i gyd.
Maen nhw’n dal acw rwla, yn yr atic mewn stash.
Sgen y plant ddim diddordeb mewn fformats hen ffash.
Maen nhw’n gallu gwrando ar lein ac ar lôn,
Pob cân o bob albwm ar gael ar eu ffôn.

Chwarter canrif yn ôl, addewais i’m hun
I barhau’i fynd i gigs a finnau’n hen ddyn.
I neidio fel idiot, a thynnu fy nghrys
A dangos fy mysls yn laddar o chwys.
Ond dros y blynyddoedd, daeth newid i’r drefn.
Mae sefyll rhy hir yn creu poen yn fy nghefn.
Dydi sgrechian gitârs a dryms ddim yn grêt
Pan mae’r cyfan dwi isio ’di sgwrsio a sêt.

Chwarter canrif yn ôl, roedd hi’n gythral o hwyl
I fynd yn un criw i wersylla mewn gŵyl,
I ddathlu a dawnsio a chadw y ffydd
A chwerthin a chanu hyd toriad y dydd.
Ond bellach, gwell gwely na chysgu ar lawr
Yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, Rhif 6 neu Crug Mawr,
Ac mae slipars a ch’nesrwydd a chawod wrth law
Yn lot mwy apelgar na welis a baw.

Chwarter canrif yn ôl, mor agos, mor bell.
Chwarter canrif yn ôl, er gwaeth ac er gwell;
Amser dechrau ffarwelio â’r llanc ifanc, ffôl
Pan ddes i yn dad, chwarter canrif yn ôl.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau

Daw'r clip hwn o