Main content
Gwyl nôl a mla’n Llangrannog gan Mari George
Yr un môr yw hwn
a’r môr a gariodd y Gymraeg
ond sylwai neb arno
dim ond ei ddefnyddio.
A daw’r môr hwn heddiw
nôl a mlaen a’i ystrydebau atom,
geiriau caneuon, atgofion, jocs
yn sgleunio yn y gwymon.
Fe’u casglwn.
Fe ddaw heddiw’n feddw
i guro’r siarad cwrw
ac yn ager mabinogi
o straeon ddoe
rydym yn wag o ddiogel.
Ond fory
beth am i ni sefyll yn ein hunfan
am funud
a sylwi y gallem ninnau hefyd
ddod ag ystrydebau newydd
i ganol esgyrn chwedlau.
Beth am wynebu pen tost ein haddewidion
yn yr haul cryf
a’r môr.
Yr un môr.