Syniad pwy?
Sian Northey, sef bardd preswyl Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru ar gyfer mis Medi, yn adrodd ei cherdd 'Syniad pwy?' i nodi lawnsio 'Cystadleuaeth Cacen Nadolig Bore Cothi 2014'.
Syniad pwy?
Un bore'n mis Rhagfyr mi gyrhaeddodd y cynta'
yn becyn bach twt gan wraig o Ddolgella',
ac yna daeth sleisan gan ŵr o Lanelli,
dau ddarn o Biwaris, un o'r Ffôr, tri o'r Fenni.
Daeth bocsiad o Ferthyr, darn bach o Landudno,
rhyw friwsion o Arberth, cacan gyfa o'r Bermo.
Bob bore roedd postmyn Caerdydd yn stryffaglu,
tair fan ambell ddiwrnod a'r creaduriaid yn chwysu.
Mae 'na rwbath yn drefnus am bobl Tregaron
- mi logo nhw lori a'i llenwi i'r ymylon
â darnau o gacan mewn bocsus bach destlus
a nodyn 'fo pob un yn nodi y cynnwys.
A dal i ymddangos oedd y darnau o gacan,
gan gwcs lawr y lôn a Chymru alltud yr Alban.
Roedd rhai efo eisin a rhai efo rhuban
a rhai efo celyn a pheli bach arian.
Fe wagiwyd dwy stiwdio i gadw'r cacenna,
er annog cyflwynwyr i fyta eu gora,
a dechrau eu rhannu - bois sain a glanhawyr,
yr ysgrifennyddion, a sgriptwyr, cynhyrchwyr.
Wnaeth Dai na Dei Tomos ddim byta'm byd arall
am fisoedd a'r fisoedd ac anodd yw deall
ymroddiad y ddau i glirio y mynydd
a'u dawn i gnoi cyrins tra'n cyflwyno yn ddedwydd.
Mi ddaliodd pawb ati yn ddi-drefn ond reit cîn
ac er y diflastod doedd neb wir yn flin
nes tagodd Sian Gwynedd ar bedair sultana
a holi yn biwis "Syniad pwy oedd peth fel'ma?
Mae'n well i'r un gafodd y fath syniad dwl
ffindio rhyw ffordd o gael gwared o'r cwbwl!"
Fe dreiliodd Sian Cothi dri mis yn creu rota
efo cyfrifiaduron wedi'u benthyg gan NASA,
Pwy oedd i fyta pa ddarn a pha bryd,
ymgyrch filwrol i'w byta nhw'i gyd.
Ac yna datganiad i'r holl staff Â鶹ԼÅÄ
"Mae llwyddiant yn bosib, mi orchfygwn ni
y cacennau Nadolig! Gorffenir y gwaith
gan Tommo am dri, yn nwy fil dau ddeg saith."
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 26/09/2014
-
Cystadleuaeth Cacen Nadolig Bore Cothi 2014
Hyd: 02:05
-
Kathryn Ellis
Hyd: 07:25