Main content

CAERNARFON: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Seremoni

‘exegi monumentum aere perennius’
y bardd bach uwch beirdd y byd
hedodd ei angau i Barcelona hefyd
a minnau’n syfrdan yn y Sagrada Familia

yn gwylio breichiau’n codi, yn ceisio dal goleuni,
ymbil eu camerâu yn ofer ridyllu
tragwyddoldeb i’w lluniau di-rifedi,
wrth addoli gwaith dyn a gynganeddai feini.

Ac yn offeren ansicr y breichiau
synhwyrwn chwithdod fy mhobl innau
yn ymbalfalu am eiriau,
yn ceisio snapio teyrngedau.

O am gael naddu ystyr fel pensaer ein neuaddau,
pencerdd dyfnderoedd ein dyheadau
a grynhoai fydoedd mewn cwpled cymen,
a’i awdlau’n codi’n glochdyrau amgen.
Ond fe’i dathlwn, tra cerddwn ei gynteddau,
mae pob carreg yn sill yng ngweddi’r oesau.

Ifor ap Glyn
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud