Main content

Pennil Ymson

CAERNARFON

Ymson Joni Bach

'Yn huno mewn hedd?' - na, fi laddodd y gath,
ei boddi mewn cwd (roedd hi'n haeddu lot gwâth)
Bu'n rhaid jengid wedyn, ar ôl pennill un,
a ffoi rhag cathgarwyr dialgar a blin,
newid fy enw, mynd draw dros y don,
cyn ail-ymgartrefu mewn cân newydd sbon.
Do, fe ges gyfle arall, cydiais ynddo yn frwd-
mae 'joni bach' bellach yn Johnny B. Goode!

Ifor ap Glyn
9

Y GLÊR

Ymson Dai Bach y Sowldiwr, 1914

Shwd hwyl sy ar Dafydd a Joni
Ys gwn i, a Meri Ann?
Ond waeth imi heb a meddylu,
Mi wela'i nhw 'to, yn y man.

Hywel Griffiths
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau