Main content

CRIW'R LLEW COCH: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Torf

Atgof am noson yn y capel ar Ynys Enlli ym Mai 1999; Roedd hi’n noson agor y Cynulliad yn Nghaerdydd. Tra roedd y sbloets fawr yn digwydd yno, roeddem ni yn nodi’r achlysur yng ngolau cannwyll – a Merêd yn ein plith.

Mae chwech yn dorf ar ynys fach
A mil neu fwy ar lannau’r Taf
yn ddyrnaid o boblach.

Cannwyll yn y gwyll yn danbaid, fud
A’i llygad byw yn gweld ymhell
er bod yr haul yn machlud.

Coelcerth wynias, wyllt Y Bae,
Dreigiau ‘bling’ yn poeri’n nagrau’r tân,
Gwlad ! Gwlad ! yw y gân
Sy’n lapio’i hunan yn ein lluman heno,
- Mewn baner estron yfory eto.

Ar ynys fach mewn capel
llu o chwech yn fintai fân,
yn fyfyriol lawen , yn ‘liaws tawel’ ,
Fflam yn llosgi’n ddagrau a’r ffrydiau cwyr yn fferru -
Nid maint y dorf all fesur gwerth y dathlu.

Mair Tomos Ifans
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud