Main content

Y GLÊR: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Torf

Mor araf uwchben Marlay Park yw treiglad y cymylau;
yn rhydd, yn llonydd, fel y myn las a gwyn ein hugeiniau
iddynt fod cyn dyfod iaith
i oeri'n calonnau.
Mae 'na ewin o heulwen sydd o hyd yn llosgi,
yn dal i grafu'r gwrthryfel na all beidio â chosi.
Ond mae hi'n Sul yn Nulyn
a neb yn sylwi:
cyd-ganwn i’n gŵyl ac arogli'r alawon
sy’n drech nac ystyr, yn deffro angylion,
yn gusan rhwng y miloedd
na fu eto'n gyfeillion.
Yn hwyr dros Marlay Park fe gwymp arcêd o olau
a chytser o glitter yn llwch o liwiau
a'r rheiny'n rhydd fel y galon
cyn dyfod y geiriau.

Osian Rhys Jones (Eurig Salisbury yn darllen)
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

59 eiliad