Main content

CRIW'R LLEW COCH: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cychwyn ac yn gorffen gydag enw person

Cer i hau, mae caeau'r iaith
yn chwyn, darn bach o heniaith
yn gwisgo clog o ysgall
rŵan o un Llan i'r llall;
llwm yw'r cwm o'r Gymraeg hon
a maestref sy'n gwm estron;
estyn, lle mae'r chwyn drosti,
dy og ac ailhada hi;
rhaid chwynnu'r Gymru i gyd
a rhofio y tir hefyd
i'n hiaith; ein dyfodol ni
yw cyweirio'n aceri.

Tegwyn Pughe Jones
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

26 eiliad