Main content

Y GLÊR: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cychwyn ac yn gorffen gydag enw person (yr un person neu ddau berson gwahanol)

Dylan, tyn dy hualau,
Cana gân cyn inni gau,
Dyro gwch yn y dŵr gwyn
O glydwch dan glo wedyn,
Yna, forwr, a fwri
I lyfr y dŵr dy hwyl fawr di?
Dy hwyl fawr di i lyfr y dŵr
A fwri yna, forwr
Dan glo, wedyn, o glydwch,
Yn y dŵr gwyn, dyro gwch,
Cyn inni gau, cana gân
Dy hualau tyn, Dylan.

Eurig Salisbury
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

36 eiliad