CRANNOG: Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Y Deg Uchaf
Deg yw Bob Delyn a’i hen benillion,
Gall godi yn uwch o finiogi’r ebillion.
Rhif naw yw ail-lansiad I’r ffans sydd dros drigen
O ‘Bore’r Briodas’ gan Ifor Owen.
Aneirin y rapiwr, Llydaw-wr y llwyth,
Sy’n rat-a-tat-tatio trwy’r iet i rif wyth.
Yn seithfed daw Triawd y Buarth i’r Sioe,
Sef Tegwyn ac Oernant ac Arwyn Groe.
Ail-weithio’u ffordd lan mae Rhys ac Aaron
Yn canu’r blŵs yn eu crysau cochion.
Un safle yn uwch gyda’u lleisiau soniarus
Mae Robat Powell a Chôr Treforys,
Yn bedwerydd mae’r Meuryn ac Ar ôl Tri,
Mae’n nhw’n gwybod eu lle, fel y sylwch chi.
Rhif tri I’n hudo, fel lliwiau’r enfys
Yw Lleucu Llwyd gan Dewi Grey Morris.
Band Myrddin y tro yma sydd ddim ond yn ail,
Fe saethwyd eu llwynog, diffoddwyd yr haul.
A chaiff Lovegreen gytuno, wrth dderbyn y clod,
Mai yma, yn gynta, ma’ fynta i fod.
Dai Jones
9.5