Main content

CRANNOG: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Tarth

(Yn ei henaint peintiodd Monet gyfres o tua 250 o ddarluniau olew o lilȉau’r dŵr a dyfai ar lan y llyn)

Ti, yr hynafgwr barfog yn yr ardd,
Wnest ddygnu arni ar ganfasau tyn
Wrth beintio beunydd y lilȉau hardd
A dyfai’n drwch ar wyneb dŵr y llyn.
Fe gest dy lygad-dynnu yn ddi-os,
Fel nad oedd gorwel, awyr las na gwrych
Yn cael un sylw gyda’r clwstwr clós
O’r blodau hyn a’r cryndod yn y crych.
Teneuo a wnaeth holl liwiau’r hwyr brynhawn
A’r bilen bylai’r golwg yn ddi-ball,
Y coch a’r melyn mwy mewn golau gwawn
Argraffai ar dy lygad hanner-dall.
Ond eto yn y paent synhwyraf i
Nad oedd ond tarth o ddŵr y llyn i ti.

Hywel Rees
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

59 eiliad