Main content

CAERNARFON: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Tarth

‘Canys beth ydyw eich einioes chwi?’
Y bore wedyn, roedd swrealaeth o gymylau
wedi’u parcio ar hyd y dolydd
a’u peiriannau’n dal i droi, yn fud ac yn wyn...

Y noson gynt, ar ôl y gorffen,
beiciais o’na, yn lle beichio crio,
a’m dyrnau ar y cyrn
yn rhubanu mynd drwy grai nodwydd y nos.
Roedd erwain yn bochio allan i’r llwybr
a’r coed yn cwblhau’r claustrophobia;
a’m lamp yn gwandrywanu’r düwch
a lithrai heibio, cyn cael ei oleuo...

A thrannoeth, daeth lleithder i’r llygaid eto
wrth straenio gweld mewn gwyn yn lle du,
a’r coed fel ysbrydion, yn nofio’n ddi-angor.
Ond roedd y byd gwyn yn gwahodd,
â’i addewid, o leia, o haul ar y ddol,
wrth agor o’m blaen a chau ar fy ôl...

Ifor ap Glyn
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau