Main content

CAERNARFON: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cychwyn ac yn gorffen gydag enw lle (naill ai yr un lle neu ddau le gwahanol)

Karnag rhyw Lydaw agos
Yw i ni, tref sy'n fest noz
O droi medd yn gyfeddach
Yng nghyfrodedd bysedd bach
Y ddawns - mor gyfarwydd yw;
Rhyw fyd fel adref ydyw.

Ond mae tref arall hefyd;
Tref flysig, Ffrengig ei phryd,
Ac yno, rhwng dwylo dig,
Diarth yw'r ddawns Lydewig
Yn eco'r iaith - Ffrangeg crac
Yw cyweirnod tref Carnac.

Ifan Prys
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

32 eiliad