Main content

CRANNOG: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cychwyn ac yn gorffen gydag enw lle (naill ai yr un lle neu ddau le gwahanol)

‘Ac ef a gychwynnwys y nos honno o Arberth, ac a doeth hyt ym Penn Llwyn Diarwya, ac yn y bu y nos honno.’

Penllwyn Du yw’r llety llawn
Lle gwariai Pwyll ac Arawn
Yr amseroedd pan oeddynt
Ar herw rhyw garw gynt.

A ddoe o hyd sy’n rhyddhau
Dyfedeg hen dafodau
Mewn un gyfeddach lachar
O rithio byd wrth y bar.

Yno fyth yr hen helfâu
Â’n un â’n heddiw ninnau.
A’r Wes Wes yn cynhesu
Lle nid oes fel Penllwyn Du.

Idris Reynolds
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

27 eiliad