Main content

TIR MAWR: Telyneg ar fydr ac odl - Iard

Y llwch o’r derw a’r iroko pan aent trwy’r llif,
Y tuniau paent, rhai’n hanner gwag rhai’n hanner llawn,
Ysgerbwd rhyw hen gwch, y seiri wrth y fainc
A thrugareddau na wn be ynt yn iawn.

Y bachgen swil a distaw pymtheg oed
Mwg baco, gwymon, naddion coed a llaid,
Sŵn weiars ar y mestus yn y gwynt
Y dyddiau difyr, bywyd braf di baid.

Fe lifodd ffilm o luniau clir trwy’r cof
A chyffwrdd fy synhwyrau fel hen win
A’r blwch a ddaliai swyn yr oes a fu
Oedd pwced byti blastig, â’i had llin.

Huw Erith
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

43 eiliad