Main content

CAERNARFON: Telyneg ar fydr ac odl - Iard

'Sut mae'r hen le?' gofynna 'Nhad
o'i gornel yn ddi-ffrwt.
Be fedra'i ddweud? 'Mae'n dawel' ?
'Mae pob man lot rhy dwt' ?
'Sdim ci teiars yn sgrialu'n
gadwyn gyfarth o'i gwt'?

Sut fedra'i ddweud fod y ddraenen wen
bellach wedi'i diwreiddio?
Fod iard ei hen gynefin gynt
wedi'i sybyrbaneiddio?
Llwyni estron amdani'n llen
a heli'r mΓ΄r yn eu deifio...

Daw'r un hen gwestiwn fory,
fel rhedeg bys 'hyd craith;
daw'r cwestiwn fory a thrennydd;
dyma gerrig milltir y daith
i ddyn wnaeth symud heb adael,
sydd byth wedi cyrraedd chwaith.

Ifor ap Glyn
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

58 eiliad