Main content

CAERNARFON: Cân (heb fod dros 20 llinell) - Colli.

Colli’r paith a cholli’r pampas,
Colli cwpan mewn galanas
Colli crysau tyn Adidas
Ac yn eu lle cael brafiach bras.

Colli iws technoleg goal-line,
Colli’r jôc a cholli’r punchline,
Colli clywed drwy y grêpfain,
A cholli ffydd yn nymbar nain.

Colli Corrie, colli Brookside,
Colli gêm mewn heulwen tanbaid,
Colli goliau Norman Whiteside
Ac yn eu lle cael taclau taid.

Colli’r wlad a cholli limpin,
Colli’r Eidal ac Ariannin,
Colli rheolwr mewn cot sheepskin,
Ar tîm i gyd yn dda i ddim.

Dod yn ôl i’n hymerodraeth,
Gwyliau hir, mwynhau y nightlife,
Dim yn newid, dim gwahaniaeth,
A Lloegr ’nôl ar draeth anobaith.

Geraint Lovgreen
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud