Main content

CRIW'R SHIP: Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Drain

Drain (Defnyddir Draenen Wen(Hawthorn) i wneud gwrych)

 dwy law, f’anwyliad
O raid fu’n gosod clawdd.
Plygu cain a phleth mewn tro
Bonion praff ei lafurio’n
creu campwaith o bigiadau,
Coron ar ein caeau aur.
Y gwrych yn ffin i ffynnu
a ffrwytho dro ‘rôl tro.

Cripiadau ei lafur
sy’n gwaedu’n y perthi plyg,
cartref i’r deryn du
ganu er côf eleni,
ac yno’n blaguro’i barhâd
mae plethwaith o gariad.

Nia Mon (Gwyneth Glyn yn darllen)
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

33 eiliad