Main content

CRIW'R LLEW COCH: Parodi ar yr emyn ‘Calon Lân’

1. Nid wy’n mofyn bod yn atheist,
Mi a’ i’r capel ambell Sul.
Gofyn rwyf am gapel hapus
Capel gonest – ddim rhy gul .

CYTGAN
Capel glân yn llawn dydd ‘Dolig,
Tecell, U – bank, leino piws,
Dim ond capel gwag ‘rhyd flwyddyn
Capel glân – ond be’ ‘di’r iws

2. Pe dymunwn olud bydol
Nid yn fan’ma cawn i o,
Mae’n rhaid cynnal bore coffi
Er mwyn trwsio’r twll ‘n y to.

3. Hwyr a bore fy nymuniad
Esgyn at yr ystlum fry
A throi’r cyfan ben i waered,
Rhoddi ‘sgydwad mawr i’r tŷ.

Mair Tomos Ifans
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau