Main content

CRIW'R LLEW COCH: Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn gofyn am fenthyg aelod o’r tîm arall

Gawn ni fardd, gawn ni Fyrddin
I’n bro, prifardd â’i ddawn brin ;
Crëwr iaith fel Ceri Wyn?
A gawn geiliog y gwanwyn,
Y gŵr all ganu ei gân,
A’i dalent fel Bob Dylan;
Y guru mwy na Gerallt
I greu y dasg; gŵr y dallt,
Gŵr llȇn, cynganeddwr llym?
Wele Dafydd ap Gwilym
Y radio, Shakespeare ydyw.
Gawn ni Pod, er mor od yw.

Tegwyn Pughe Jones (Arwyn Groe yn darllen)
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

37 eiliad