Main content

Y GLÊR: Trioled - Enfys

Am nad yw'r cof yn cadw draw,
Pont heb iddi garreg yw cariad.
Rhaid byw ar bendil haul a glaw
Am nad yw'r cof yn cadw draw;
Bydd heb rybudd rhyw ddydd a ddaw
Gawod arian yn gwlychu'n dillad,
Am nad yw'r cof yn cadw draw.
Pont heb iddi garreg yw cariad.

Osian Rhys Jones
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

22 eiliad