Main content

CRANNOG: Trioled - Encil

Pontyberem – bro mebyd Hywel Rees

Bûm filwaith ar y daith yn ôl
I’r pentref hwn ym mro fy mebyd,
I gwtsho eto yn ei gôl
Bûm filwaith ar y daith yn ôl
A theimlaf eto blwc y siôl
Ym Mhontyberem wrth ddychwelyd.
Bûm filwaith ar y daith yn ôl
I’r pentre hwn ym mro fy mebyd.

Hywel Rees
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

21 eiliad