Main content

ABERHAFREN: Pennill ymson cefnogwr/aig pêl droed

Ffarwelia â phawb, nid adwaena neb,
mewn cymysgiaith rhwng chwerthin a chrio.
Â’i dîm wedi colli, trosi a throi
a wna’r Sais ar y cei yn Rio.
Pwy a edrydd ynfydrwydd ei ganu'n iach,
neu'r hwyl a ddaw im wrth bitïo
penwendid y Sais â’r crys ffwtbol gwyn -
y Sais ar y cei yn Rio?

Rhys Iorwerth
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

31 eiliad