Main content

Y GLÊR: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Tynnu’n Groes

('Ydy’r Gymraeg yn eich corddi, pam?')
Roedd dyddiau gleision Ebrill yn cega
ymysg ei gilydd; sŵn crawcian cecrus
sy'n hen gyfarwydd; blagurodd geirfa
llynedd i gau eto'r cylch cynhennus:
bygwth tafod, cael clust i'w gyfiawnhau;
oedfaon hirion ar donfeddi gwlad
yn pregethu'u crefydd o ufuddhau;
pobl ddim mwy na chysgod haf. Pwy a wad
i’r rhai sydd eisoes yn breuddwydio'u gwanwyn
gael dadblethu’r croesau o'r cynfas glas?
Blodau'r gogledd nad Å·nt gaeth gan wenwyn,
yn deall na all pob diawl gadw'i was.
Wrth greu croesffordd ag inc, cânt fesul un
dorri llwybrau newydd, yn llwyr gytûn.

Osian Rhys Jones
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

51 eiliad