Main content

Y GLÊR: Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Er damnio iaith, er dymuno weithiau’

Er damnio iaith, er dymuno weithiau
Ei phoeri'n gynnil o ffwrn y genau,
Carthu o warws y llwnc ritheiriau
A chlirio'r draen o straen cystrawennau,
Fel rhyw wenwyn mwyn y mae - yn sticio
Gyflaith ewynnog fy ail iaith innau.

Eurig Salisbury
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

28 eiliad