Main content

Y FFORDDOLION: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Cadw tÅ·

(bwthyn yn Sain Ffagan)

Mae’r drws ar agor ac yn lledu’n wên
at wres y tân, at hwyl, at gwmni clên,

at sglein y derw, at y cerrig glas,
at olion gŵyl a gwaith y ffedog fras,

hyd at y golch mewn twbyn ar y llawr,
ac at yr heyrn wrth droed y simne fawr.

Tu ôl i’r pared, y mae gwely clyd,
y matras wedi’i droi, yn starts i gyd.

Mae’n oer, fel ddoe ac echdoe, dan y plu
a bydd y cwrlid, ’fory, fel y bu,

am fod y diwrnod, wedi’r holl lanhau,
yn troi tua thre’ ar ôl yr oriau cau.
 
Mari Lisa
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

50 eiliad